Casgliad o eiriaduron Cymraeg<>Saesneg mewn fformat electronig hwylus
Mae Cysgeir, sef rhan o becyn Cysgliad, yn eiriadur defnyddiol a chynhwysfawr ar gyfer eich cyfrifiadur. Mae'n cynnwys geiriau cyffredinol yn ogystal â thermau arbenigol o'r geiriaduron terminoleg sydd wedi cael eu cyhoeddi gan Canolfan Bedwyr dros y blynyddoedd.
Manteision Geiriadur Meddalwedd
Fel geiriadur meddalwedd, mae ganddo sawl mantais dros eiriaduron papur traddodiadol. Gyda Cysgliad, mae'n gyflym ac yn hawdd dod o hyd i air. Teipiwch y gair rydych chi'n chwilio amdano i mewn i'r blwch chwilio a bydd y geiriadur yn dechrau chwilio amdano cyn i chi orffen teipio. Os nad ydych chi'n siwr o'r sillafiad, gallwch deipio'r ychydig lythrennau cyntaf a defnyddio'r ffenestr chwilio ar y chwith i'w ganfod.
Chwilio yn y naill iaith neu'r llall
Gallwch chwilio o'r Gymraeg i'r Saesneg neu o'r Saesneg i'r Gymraeg, ac mae newid o un iaith i'r llall yn hawdd - dim ond clicio ar un botwm sy'n rhaid. Gallwch hefyd newid iaith y rhyngwyneb o'r Gymraeg i'r Saesneg os ydych chi'n dymuno.
Nodweddion Arbennig
Dad-dreiglo
Mae gan y geiriadur nifer o nodweddion diddorol eraill nad ydynt i'w cael mewn geiriaduron traddodiadol, er enghraifft y gallu i ddad-dreiglo geiriau. Teipiwch gath i mewn a bydd yn ei adnabod fel ffurf ar cath ac yn mynd â chi i'r cofnod perthnasol.
Dad-redeg berfau ac arddodiaid
Yn yr un modd, mae Cysgeir hefyd yn dad-redeg berfau ac arddodiaid. Os teipiwch chi rhedodd bydd Cysgeir yn ei adnabod fel ffurf ar rhedeg ac yn mynd a chi i'r cofnod hwnnw.
Geiriadur Odlau
Yn ogystal â hynny, mae gan Cysgeir y gallu i weithredu fel geiriadur Cymraeg - teipiwch '*' cyn llythrennau'r odl ac fe gewch restr o'r holl eiriau sy'n gorffen gyda'r cyfuniad hwnnw o lythrennau.
Canfod termau
Un arall o fanteision Cysgeir yw ei fod yn dod o hyd i dermau aml-air neu ymadroddion sy'n cynnwys y gair chwilio; dim ond clicio ar y botwm glas sydd raid. Petaech chi'n chwilio am y gair 'pysgod' er enghraifft, byddai rhoi clic ar y botwm yn dangos yr holl dermau ac ymadroddion yn y geiriadur sy'n cynnwys y gair pysgod, er enghraifft gwerthwr pysgod (fishmonger) a pysgodyn sgyfeiniog (lungfish).
Geiriadur sy'n diweddaru ei hun
Nodwedd arall sy'n peri bod Cysgeir yn wahanol i eiriadur traddodiadol yw'r ffaith bod modd diweddaru'r geiriadur dros y we. Pan fydd Canolfan Bedwyr yn rhyddhau rhestr termau newydd, bydd modd i chi ei llwytho i lawr a'i ychwanegu at gynnwys geiriadur Cysgeir. Gallwch chi ddewis yn union pa rai o'r geiriaduron hyn sy'n cael eu dangos gan Cysgeir drwy eu ticio neu eu dad-dicio nhw yn y sgrin 'Newid Geiriaduron'.
Cliciwch yma i weld fideo'n dangos Cysgeir ar waith
Wedi anghofio eich manylion mewngofnodi?
Newyddion
| 06 Mehefin 2010, 12:51:35 |
| Diweddariad Cysgliad ar gael ar gyfer Windows 7 |
| Mae rhai defnyddwyr wedi cael trafferthion gosod Cysgliad ar rai peiriannau sy’n rhedeg Windows 7.
Erbyn hyn mae diweddariad ar gael sy’n datrys y problemau a oedd yn effeithio ar rai defn..... |
| Rhagor... |
Murmur yw blog yr Uned Technolegau Iaith, lle cewch ddarllen am waith diweddaraf yr uned. Cliciwch yma i fynd yno.