Gwirydd sillafu a gramadeg sy'n cynnwys thesawrws
Gwirydd sillafu a gramadeg yw Cysill. Mae'r gwirydd sillafu yn adnabod gwallau teipio a chamsillafu, gan dynnu sylw atynt a chynnig cywiriadau. Mae’r gwirydd gramadeg yn gallu cywiro camdreiglo a chamgymeriadau gramadegol, gan roi’r rheswm y mae'r gwall yn cael ei gyfrif yn anghywir.

Uchod: Mae Cysill yn adnabod gwall sillafu ac yn cynnig cywiriadau.

Uchod: Mae Cysill yn adnabod gwall gramadegol ac yn cynnig y
cywiriad perthnasol. Gellir dewis gweld y negeseuon gwall yn y
Gymraeg neu'r Saesneg.
Mae modd gosod y rhaglen i weithio o fewn rhaglenni prosesu geiriau fel Microsoft Word ar ffurf botwm ar y bar offer (gweler y llun isod), ond mae'n gallu gweithio'n annibynnol hefyd. Y cyfan y mae angen ei wneud yw amlygu unrhyw destun yr hoffech chi ei wirio, gwasgu'r bysellau Ctrl, Alt ac W ar yr un pryd, a bydd y testun yn ymddangos yn Cysill ac yn cael ei wirio. Os yw'r rhaglen wreiddiol yn caniatáu golygu testun, gall Cysill osod y testun wedi ei gywiro yn ôl yn ei safle gwreiddiol pan fydd y gwirio wedi'i gwblhau.

Uchod: Cysill a Cysgeir oddi mewn i Microsoft Word 2007. Mae'r ddwy raglen
hefyd yn gweithio gyda fersiynau blaenorol Microsoft Word yn ogystal â gyda
rhaglen prosesu geiriau Open Office.org.
Mae Cysill hefyd yn cynnwys thesawrws sy'n eich galluogi i ddod o hyd i eiriau gwahanol sydd ag ystyr tebyg i'w gilydd, er mwyn gwella'ch geirfa a chynyddu amrywiaeth eich arddull.

Uchod: Rhai o'r cyfystyron mae Cysill yn eu cynnig ar gyfer 'trist'
Cliciwch yma i weld fideo'n dangos Cysill ar waith
Wedi anghofio eich manylion mewngofnodi?
Newyddion
| 06 Mehefin 2010, 12:51:35 |
| Diweddariad Cysgliad ar gael ar gyfer Windows 7 |
| Mae rhai defnyddwyr wedi cael trafferthion gosod Cysgliad ar rai peiriannau sy’n rhedeg Windows 7.
Erbyn hyn mae diweddariad ar gael sy’n datrys y problemau a oedd yn effeithio ar rai defn..... |
| Rhagor... |
Murmur yw blog yr Uned Technolegau Iaith, lle cewch ddarllen am waith diweddaraf yr uned. Cliciwch yma i fynd yno.